Croeso

Croeso i wefan CaBan. Mae CaBan yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, ysgolion, y Consortiwm Rhanbarthol GwE a’r sefydliad ymchwil CIEREI. Gyda’n gilydd rydym yn rhannu’r nod cyffredin o addysgu’r genhedlaeth nesaf o addysgwyr o’r radd flaenaf, o addysg gychwynnol athrawon ac ymlaen trwy ddysgu proffesiynol parhaus ar hyd eu gyrfa. Mae CaBan yn croesawu diwygio system addysg Cymru ac mae’n chwarae rhan hanfodol mewn cyflawni “Cenhadaeth ein Cenedl”.

Ein nod yw sicrhau bod athrawon ledled y rhanbarth wedi eu paratoi’n llwyr i gyflawni’r targedau uchelgeisiol y mae Cymru wedi’u gosod ar gyfer ansawdd ei haddysg. Rydym angen athrawon sy’n arloesol, yn greadigol, angerddol ac uchelgeisiol. Athrawon sy’n deall yr iaith a’r diwylliant Cymraeg ac yn parchu pob plentyn waeth beth yw eu gallu neu eu cefndir. Rhaid i ni beidio â methu, ac ni allwn fethu gyda’r genhadaeth hon.

Hazel Wordsworth
Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon

Cyrsiau

Mae’r cyrsiau newydd hyn wedi eu llunio ar y cyd drwy gydweithio agos rhwng athrawon a thiwtoriaid prifysgol i sicrhau cydbwysedd rhwng dysgu proffesiynol ymarferol a damcaniaethol. Mae newidiadau cyffrous yn digwydd yn y byd addysg yng Nghymru ar hyn o bryd a bydd angen athrawon rhagorol er mwyn gwireddu’r newidiadau hynny. Dyma eich cyfle i ddilyn gyrfa werth chweil, a bod yn rhan o gyfnod y mae disgwyl iddo fod yn un pwysig yn hanes addysg. Ar gyrsiau CaBan, byddwch yn astudio i fod yn arweinydd dysgu trwy’r Cwricwlwm Cymreig a byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. Yr hyn sy’n hanfodol yw ymrwymiad i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru ynghyd ag awydd i ddatblygu’n athro rhagorol sy’n cefnogi’r mentrau addysgol sy’n digwydd yng Nghymru.

Ein Partneriaeth a’n Cyrsiau

Gan dynnu ar arbenigedd ysgolion y bartneriaeth, Prifysgol Bangor, ysgolion, y Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) a GwE, mae CaBan yn bartneriaeth unigryw sydd wedi’i chynllunio i roi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi sefydlu eich hun fel athro rhagorol yng Nghymru a thu hwnt. Gyda’n gilydd, rydym wedi datblygu ystod o gyrsiau Cynradd ac Uwchradd rhagorol ar gyfer Addysg Athrawon, ar draws amrywiaeth o bynciau, ar lefel israddedig ac ôl-radd.

Cwrs israddedig Cynradd

TAR Cynradd gyda SAC (3–11)

TAR Uwchradd gyda SAC

Cewch wybod mwy am ein holl gyrsiau wrth ymweld gyda CaBan Bangor ym Mhrifysgol Bangor ar ein Diwrnodau Agored neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ymholi cwrs ar-lein hon.

Datblygiad Proffesiynol i Athrawon

Mae CaBan Bangor yn ogystal yn cynnig nifer o gyfleoedd i athrawon ddatblygu’n broffesiynol. Mae modd i chi wneud cyrsiau Meistr rhan amser neu amser llawn. Mae yna hefyd gyfleoedd i wneud gwaith ymchwil gan arwain at Ddoethuriaeth.
Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Cyfleoedd i Athrawon